Caerdydd, Cymru
Chwefror 2004

 

Wedi dygymod â'r siom o fethu allan ar gyrraedd Portiwgal ac Ewr 2004, roedd Gôl! yn ôl yn codi aria at achosion da wedi'n cefndryd Celtaidd o'r gogledd i Fur Hadrian drefnu gêm gyfeillgar â Chymru wrth drefnu bod 40 o bob ifanc o dde Cymru yn cael noson allan yng Nghaerdydd a gwylio'r gêm yn Stadiwm y Mileniwm.

Gyda chefnogaeth hael Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac NSPCC Cymru/Wales, cafodd criw o bobl ifanc o Grwp Cymorth Teuluol y Gurnos ym Merthyr wahoddiad i'r gêm gan Gôl! ynghyd â ffansin The Dragon Has Landed ac apêl cefnogwyr Yr Alban, y Sunshine Appeal.

Cyn y gêm cafwyd parti a phrydo fwyd yr un i'r criw yn Burger King yng Nghaerdydd.

Ers y cychwyn cyntaf mae Gôl! wedi bod yn weithgar iawn wrth ddilyn Cymru dramor wrth roi offer pêl-droed, dillad, teganau ac arian i gartrefi plant amddifad yn Baku, Belgrade a Moscow, yn ogystal a thalu i dau o blant ddod drosodd o Azerbaijan i Gymru i fod yn mascots yn Stadiwm y Mileniwm.

"Roedd y rhan cyntaf o'n gweithgareddau yn cyd-fynd â gemau rhagbrofol Ewro 2004, ond wrth baratoi ar gyfer y cyfres nesaf o gemau fydd, rydym yn gobeithio, yn gweld y tîm yn cyrraedd Yr Almaen yn 2006, rydym yn sylweddoli fod angen bod o gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru hefyd," meddai cadeirydd Gôl!, Dylan Llewelyn.

A dyna pham mae Gôl! wedi dewis helpu'rplant naw a deng mlwydd oed o Ferthyr. Agorwyd canolfan yr NSPCC ar y Gurnos ym 1995 er mwyn cynnig clybiau wedi'r ysgol, grwpiau rhiant a phlentyn yn ogystal a chynnig cefnogaeth i deuluoedd ar y stâd..

Roedd y rhan fwya o'r plant yn ymweld â Stadiwm y Mileniwm am y tro cyntaf er mwyn gweld Cymru'n chwarae a roeddent yn edrych ymlaen yn arw. "Byddai'r plant yn hoffi diolch i gefnogwyr Cymru am roi'r cyfle iddynt weld eu harwyr yn chwarae,"meddai rheolwraig y ganolfan, Angela Collins.

 



 

> cartref

> gweithgareddau
2002
9 azerbaijan
2003
9 cymru v azerbaijan
9 serbia
9 rwsia
2004
9 cymru v yr alban
9 hwngari
9 norwy
9 cymru v canada
9 latfia
9 azerbaijan
9 lloegr
2005
 9 cymru v hwngari
 9 awstria

> codi arian

> siop Gôl!

> clwb cefnogwyr

> cysylltwch â ni

> english