Baku, Azerbaijan
Tachwedd 2002


Mark Ainsbury gyda rhai o'r plant o Orphange #1


Mae dros 8,000 o blant yn byw mewn 50 o gartrefi plant amddifad yn ninas Baku. Y rheswm mwyaf dros y niferoedd anhygoel yw'r rhyfel diweddar ag Armenia, ond mae tlodi yn chwarae rhan mawr yn y sefyllfa hefyd - mae 64% o boblogaeth Azerbaijan yn byw mewn amgylchiadau sydd yn is na'r lefel tlodi derbyniol yn ôl adroddiad diweddar gan y Cenhedloedd Unedig.

Cyn teithio i Azerbaijan, cysylltodd Gôl! â thair elusen wahanol gan drefnu i'w cyfarfod yn ystod ein hymweliad â Baku.

Cyfaddefodd Farid Talebov o'r elusen United Aid For Azerbaijan (UAFA) ei fod wedi ei synnu braidd i glywed gan y cefnogwyr: ”Mae gan gefnogwyr Prydeinig enw drwg yn Azerbaijan,” meddai, "Felly cawsom ein synnu - a'n siomi ar yr ochr orau - i dderbyn cynnig y Cymry.”

Y plant o Orphanage#1 yn dysgu gwers bêl-droed i'r CymryMae UAFA yn cynnig therapi chwaraeon i rhai o blant cartrefi Baku. Gyda chymorth UAFA cawsom ymweld ag Orphanage#1 ac Orphanage#1 lle rhoddwyd tri set o wisgoedd pêl-droed a dwsin o beli. Roedd y plant wrth eu boddau â'r anrhegion, cymaint nes eu bod wedi stido'r Cymry mewn gêm bêl-droed er mwyn bedyddio'r crysau a pheli!

Roedd Clwb Pêl-droed Iau Y Fali ar Ynys Môn, Clwb Pêldroed Ieuenctid Clydach ac Ysgol Gynradd Manselton, Abertawe - cyn ysgol y cawr John Charles - wedi rhoi'r gwisgoedd i'r apêl.

Yn ogystal â'r anrhegion i'r cartrefi, cafodd UAFA rodd o $400 ar gyfer prosiectau arbennig. Dywed Farid Talebov byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio tuag at sicrhau bod y plant yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Arbennig Azerbaijan - cystadleuaeth athletau sydd yn annog plant ac oedolion gydag anableddau i gymysgu a chystadlu yn erbyn plant ac oedolion heb anableddau.

Cafwyd ymweliad ag Orphanage#3 yn ardal Khatai o ddinas Baku gyde chymorth yr Azerbaijan Volunteers Union (AVU). Wedi cyrraedd y cartref cawsom berfformiad hyfryd o ganu a dawnsio traddodiadol gan y plant ac aeth rhai o'r cefnogwyr mor bell ac ymuno yn y dawnsio!

Cyn gadael rhoddwyd anrhegion o grysau-T, brwsys a phast danedd, llyfrau 'sgwennu a bagiau a roddwyd gan raglen deledu 'Uned 5' ar S4C, yn ogystal a llond trol o degannau meddal oedd wedi eu cludo draw i Azerbaijan gan y rhan fwyaf o'r 150 o gefnogwyr ar y daith.

Yn ogystal â'r anrhegion, rhoddwyd $750 i'r cartref brynnu dillad traddodiadol ar gyfer y partion canu a dawnsio er mwyn eu caniatau i gystadlu mewn cystadleuaeth ym Moscow, Rwsia.

Rhoddwyd $400 i'r AVU tuag at eu gwaith â ffoaduriaid yn dilyn y rhyfel diweddar ag Armenia.

Y drydedd elusen i dderbyn rhodd gan Gôl! oedd LOTOS, sydd yn gweithio gyda, ac ar ran, pobl ag anableddau er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Cafodd Dylan Llewelyn y fraint o gyflwyno siec o $750 i Elena Taranova, pencampwraig saethu y Gemau Paralympaidd yn Sydney 2000 - nid pob dydd mae dyn yn cael cwrdd â phencampwraig Olympaidd cofiwch!

 

> cartref

> gweithgareddau
2002
9 azerbaijan
2003
9 cymru v azerbaijan
9 serbia
9 rwsia
2004
9 cymru v yr alban
9 hwngari
9 norwy
9 cymru v canada
9 latfia
9 azerbaijan
9 lloegr
2005
 9 cymru v hwngari
 9 awstria

> codi arian

> siop Gôl!

> clwb cefnogwyr

> cysylltwch â ni

> english