![]() |

Budapest, Hwngari
Mawrth 2004

aelodau
Gôl! yn mwynhau brecwast mawr yng Nghartref
Gyermekotthon
Yn
ystod ymweliad Cymru â Budapest ar gyfer y gêm gyfeillgar â Hwngari ym mis
Mawrth, cafodd 20 o gefnogwyr Cymru a dau o gynghorwyr y Gymdeithas Bêl-droed,
Iwan Jones a Phil Jones, frecwast a hanner yng Nghartref Gyermekotthon ar fore'r
gêm.
Mae'r 126 o blant amddifad yn byw yn y cartref, sydd ar gyrion y brifddinas a
rhoddwyd £500 i Julia Blumenfeld o elusen FICE gan Gôl er mwyn
sicrhau fod y plant yn cael ymweld â gwersyll haf.
A diolch i haelioni Dave Foster o Amsterdam, cafodd Gôl! y fraint
o gyflwyno 40 tocyn ar gyfer y gêm fawr er mwyn i rhai o'r plant allu fynd i
weld eu harwyr yn chwarae yn y cnawd.
Ymysg yr anrhegion eraill roedd crys-t clasurol 'Bobby Gould Must Go',
crysau pêl-droed oedd yn rodd gan Glwb Ieuenctid yr Eglwys Newydd, tegannau a
phethau-da gan X:S Wholesale o Leckwith, Caerdydd a Penny Pinchers o Aberteifi
yn ogystal â phyjamas gan gwmni Ackroyds o'r Bala.
Mae diolch mawr, hefyd, i Zsuzsanna Eros am gydlynnu'r ymweliad.
|
>
cartref
> gweithgareddau 2002 9 azerbaijan 2003 9 cymru v azerbaijan 9 serbia 9 rwsia 2004 9 cymru v yr alban 9 hwngari 9 norwy 9 cymru v canada 9 latfia 9 azerbaijan 9 lloegr 2005 9 cymru v hwngari 9 awstria > codi arian > siop Gôl! > clwb cefnogwyr > cysylltwch â ni > english |