
Riga,
Latfia
Awst 2004

Un o fechgyn
Sprīdītis gyda'i grys Bangor
Ym mis Awst bu 25 o gefnogwyr Cymru yn ymweld â
chartref plant ar ran Gôl! er mwyn dosbarthu llond trol o offer
chwaraeon tra yn Riga ar gyfer gêm gyfeillgar Cymru â Latfia.
Mae
60 o blant yn byw yng nghartref ‘Sprīdītis’ ym mhentref Kemeri ar arfordir
y Baltic a bu i'r Cymry fynd ag esgidiau, crysau a throwsusau byr a'r pethau-da,
bathodynau a phensiliau lliwio i'r bechgyn a'r merched yn ogystal â phrynnu
cyfrifiadur i'r cartref.
Tra bo cyfarwyddwraig y cartref, Kristinana Andresone, a'i staff y hynod falch o dderbyn y cyfrifiadur, roedd y plant â llawer mwy o ddiddordeb yn y crysau, pethau-da a thegannau meddal. Ac ni anghofir y merched gyda setiau colur yn arbennig ioidynt hwy ymysg yr anrhegion lu o Gymru.
Trefnwyd i 40 o'r plant i ymweld â'r gêm rhyngwladol y noson canlynol a braf oedd eu gweld yn troi allan yn Stadiwm Skonto yn gwisgo crysau Millwall, Bangor, Casnewydd a Chaerdydd â balchder!
Roedd pob un o'r cefnogwyr fu'n ymweld â'r cartref wedi ei synnu â'r croeso a'r diolch gafwyd gan y staff a'r plant, a wyddoch chi be? Llwyddodd Cymru i ennill 2-0!
|
>
cartref
> gweithgareddau 2002 9 azerbaijan 2003 9 cymru v azerbaijan 9 serbia 9 rwsia 2004 9 cymru v yr alban 9 hwngari 9 norwy 9 cymru v canada 9 latfia 9 azerbaijan 9 lloegr 2005 9 cymru v hwngari 9 awstria > codi arian > siop Gôl! > clwb cefnogwyr > cysylltwch â ni > english |