![]() |

Moscow,
Rwsia
Tachwedd 2003

Gôl! and
the Domededevo home's football teams
Tra ym Moscow ar gyfer y gêm ail chwarae yn Ewro 2004, llwddodd rhaio aelodau Gôl!
i gymryd seibiant o ymweld â'r Sgwar Coch a phrynu hetiau a doliau Rwsieg er
mwyn ymweld â chartref plant amddifad yn Domededevo ar gyrio dinas Moscow.
Yn ogystal â chyflwyno 30 gwisg pêl-droed a sawl phêl, lluniau o'r tîm
cenedlaethol ac amryw o fathodynau a fflagiau, roedd bocs siocled ar gyfer pob
un o'r plant, a rhag ofn i ni gael ffrae gan y staff yn y cartref, roedd brwsh a
phast danedd yr un hefyd!
Wedi
cyflwyno'r anrhegion cawsom wybod bod y plant eisau ein herio ar y caeau
pêl-droed tu allan, yn ôl pob sôn roeddent braidd yn flin nad oedd eu harwyr
wedi trechu'r Cymry y noson gynt!
Tu allan ar y maes pêl-droed aml-dywydd, roedd tri tîm o chwe chwaraewr yn
gwisgo eu crysau newydd sbon ac yn disgwyl i roi gwers i ni!
Cawsom dair gêm gan ennill y cyntaf, cael gêm gyfartal yn yr ail ac, er i ni geisio thaflu'r gêm olaf gan ildio cic o'r smotyn amheus iawn yn y funud olaf, cawsom gêm gyfartal yn y drydedd gêm hefyd.
Wrth fwynhau paned a theisen wedi'r gemau,
cyflwynodd Gôl! siec o $850 i reolwraig y cartref er mwyn iddynt
brynnu cyfrifiadur.
Cyn gadael y cartref cawsom wybod fod pennaeth yr Ysgol Rhyngwladol leol wedi
clywed am ein ymweliad ac ei fod wedi trefnu gêm i ni yn erbyn y tîm lleol, Metalurg Domededevo.
Wrth i ni gyrraedd y maes aml-bwrpas ger Stadiwm Domdededevo cawsom wybod mai Metalurg
orffennodd yn ail yng Nghynghrair Moscow tymor diwethaf!
Cawsom ein hebrwng i ystafell newid gynnes braf gyda crysau wedi eu gosod allan
yn disgwyl amdanom. Wrth i ni loncian allan ar y maes cawsom ein cyfarch gan 20
o garfan Metalurg - wyth oedd yn ein tîm ni, a roedd hynny'n cynnwys dau o fois
lleol!
Nid oedd yn fawr o syndod ein bod wedi colli'n drwm mewn gêm barhaodd 10 munud
pob ffordd, cyn i ni gael ein hebrwng i ystafell ym mhrif adeilad y clwb lle
roedd coblyn o fwrdd mawr â'i lond o frechdanau, te, coffi ac, wrth gwrs, fodca.
Wedi codi sawl gwydraid at gyfeillion, hen a newydd, roedd rhaid ffarwelio er
mwyn brysio i ddal yr awyren adref.
|
>
cartref
> gweithgareddau 2002 9 azerbaijan 2003 9 cymru v azerbaijan 9 serbia 9 rwsia 2004 9 cymru v yr alban 9 hwngari 9 norwy 9 cymru v canada 9 latfia 9 azerbaijan 9 lloegr 2005 9 cymru v hwngari 9 awstria > codi arian > siop Gôl! > clwb cefnogwyr > cysylltwch â ni > english |