![]() |

Belgrade, Serbia
Awst 2003

Neil Dymock gyda rhai o'r plant o Dom Za Decu Bez Rodutelja
Wrth i Gary Speed arwain
tîm Cymru allan ar faes Red Star Belgrade er mwyn herio Serbia & Montenegro
ym mis Awst, roedd ymdrechion apêl cefnogwyr pêl-droed Cymru, Gôl!,
yn golygu fod 35 o blant amddifad o gartre Dom Za Decu Bez Rodutelja yn y ddinas
yn cael gwylio’r gêm fawr.
Yn ogystal a phrynu tocynnau i alluogi’r plant i gael profi’r wefr o wylio gêm
yn fyw, roedd Gôl! wedi trefnu i ymweld â’r cartref er mwyn cyflwyno nwyddau
â gasglwyd dros y misoedd diweddar.
Ymysg yr anrhegion oedd pyjamas wedi eu cyfrannu gan gwmni Aykroyds o’r Bala,
crysau-T a brwshus dannedd gan raglen blant Uned 5, kits pêl-droed gan glybiau
Merthyr Tydful, CPD Merched Caerdydd ac Everton, fideos plant gan BBC Cymru,
tegannau meddal gan Grwp Help Llaw Bow Street ger Aberystwyth a phâst dannedd
gan ddeintyddfa B.K. Humphries yng Nghaernarfon.
Roedd
criw o Gôl! eisioes wedi ymweld â’r cartre ym mis Ebrill
diwetha er gwaetha’r ffaith fod y gêm
wreiddiol wedi cael ei gohirio oherwydd llofruddiaeth Prif Weinidog Serbia.
Cymaint oedd y croeso gafwyd gan drigolion a staff y cartre bryd hynny,
penderfynwyd ailymweld â’r cartre er mwyn danfon mwy o nwyddau ac arian, yn
ogystal a dosbarthu tocynnau i’r gêm.
Wedi
cyflwyno'r anrhegion, roedd bechgyn y cartref yn awyddus i ddangos eu doniau
pêl-droed, ac i fod yn onest, nid oedd yr hogia'n meddwl llawer o
obeithion y cefnogwyr.
"Rydych chi i gyd rhy dew," meddai un bachgen bach powld. "Byddwn
ni yn eich chwalu chi."
Ac yn wir, roedd y plant yn llawer rhy dda i'r Cymry.
Gyda'r rhan fwyaf o hogia Bala yn penderfynu eu bod yn dioddef gormod o sgil
effeithiau'r noson gynt i chwarae, roedd ein carfan yn un fechan iawn, a bu
rhaid i ni ddibynu ar ddoniau sgorio Tommie Collins yn ogystal â gobeithio bod
ein golwr, Keith Humphries o'r Bala, yn fodlon neidio ar goncrete!
Ac o'r eiliad bu rhaid i ni alw ar Gary Pritchard i'r maes fel eilydd, roedd yn
amlwg fod y Cymry mewn trafferthion enbyd!
|
>
cartref
> gweithgareddau 2002 9 azerbaijan 2003 9 cymru v azerbaijan 9 serbia 9 rwsia 2004 9 cymru v yr alban 9 hwngari 9 norwy 9 cymru v canada 9 latfia 9 azerbaijan 9 lloegr 2005 9 cymru v hwngari 9 awstria > codi arian > siop Gôl! > clwb cefnogwyr > cysylltwch â ni > english |